Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn “ystyried yn ddwys” pa fath o gymorth y bydd yn ei roi i Irac yn wyneb trais diweddar gan wrthryfelwyr Islamaidd o fewn y wlad.

Mae Barack Obama yn ystyried p’un ai i ymosod o’r awyr er mwyn trechu’r gwrthryfelwyr. Opsiwn arall fyddai anfon milwyr traed yn ol i mewn i’r wlad.

Mae’r grwp, ‘Talaith Islamaidd Irac a Levant’ wedi meddiannu dwy ddinas, ac mae’n bygwth mynd yn ei blaen i geisio rheoli’r brifddinas, Baghdad.

“Mae cyfrifoldeb arnom ni i wneud yn siwr nad ydi’r jihadwyr yn cael eu traed dan y bwrdd yn bwrhaol,” meddai Barack Obama.

“Mae’n amlwg fod angen cymorth ychwanegol ar Irac, ac mae’n gyfrifoldeb ar yr Unol Daleithiau ac ar y gymuned ryngwladol i ymateb,” meddai wedyn.