Mae llys yn Rwsia wedi gorchymyn bod dau ddyn yn cael eu dedfrydu i oes yn y carchar a thri arall yn treulio rhwng 12 a 20 mlynedd dan glo am lofruddio’r newyddiadurwraig Anna Politkovskaya.

Roedd Anna Politkovskaya yn feirniadol iawn o’r Kremlin ac fe gafodd ei saethu’n farw yn ei chartref yn Rwsia yn 2006.

Cafodd pum dyn eu cyhuddo o’r llofruddiaeth y mis diwethaf.

Bydd Rustam Makhmudov a Lom-Ali Gaitukayev yn treulio oes yn y carchar am drefnu’r saethu. Fe fydd dau o frodyr Rustam Makhmudov yn treulio 12 mlynedd ac 14 mlynedd o dan glo, ac fe gafodd cyn-blismon o Moscow ei ddedfrydu i 20 mlynedd.

Fe ddywedodd Pwyllgor Archwilio Rwsia ei bod yn dal i geisio penderfynu pwy oedd wedi gorchymyn y dynion i ladd Anna Politkovskaya.