Cheryl James
Mae Heddlu Surrey wedi clustnodi £1.3 miliwn i’w wario ar ddarparu dogfennau  ar gyfer cwest newydd posib  i farwolaethau milwyr ym marics Deepcut.

Byddai’r arian yn talu am ddarparu tystiolaeth i’r crwner os fyddai cwest newydd.

Bu farw pedwar o filwyr, gan gynnwys milwr o Langollen, yn y barics yn Surrey rhwng 1995 a 2002, a wnaeth sbarduno honiadau o fwlio a cham-drin.

Roedd y Preifat Cheryl James, 18, a oedd yn dod o Langollen, yn hyfforddi ym marics Deepcut pan gafodd ei darganfod gydag anafiadau i’w phen ym mis Tachwedd 1995.

Yn 2002, fe wnaeth heddlu Surrrey gynnal ymchwiliad i farwolaeth Cheryl James yn ogystal â Sean Benton, 20, Geoff Gray, 17, a James Collinson, 17. Bu farw’r pedwar ar ôl cael eu saethu.

Y cwest gwreiddiol

Cafodd marwolaethau Cheryl James a’r tri milwr arall eu trin fel achosion o hunanladdiad gan y fyddin a fu’n ymchwilio i’r mater.

Cafodd rheithfarn agored ei gofnodi yn y cwest gwreiddiol.

Ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth Twrnai Cyffredinol Prydain, Dominic Grieve, gymeradwyo cais gan deulu Cheryl James i wneud cais i’r Uchel Lys am agor cwest arall.

Daeth Dominic Grieve i’r casgliad nad oedd yr achos gwreiddiol, a gofnododd reithfarn agored, wedi bod yn ddigon trylwyr.

Meddai Heddlu Surrey mewn datganiad nad oedden nhw’n ail agor yr ymchwiliad, ond y byddai’r arian yn mynd at gasglu a chyflwyno’r dystiolaeth flaenorol i’r Uchel Lys ac ar gyfer ail gwest os fyddai un.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Stuart Cundy o Heddlu Surrey: “Mae ein meddyliau gyda theuluoedd y pedwar milwr ifanc a fu farw yn y barics rhwng 1995 a 2002.

“Nid yw Heddlu Surrey am ailagor yr ymchwiliad i’r marwolaethau ond mae wedi ymrwymo i ddarparu dogfennau  i’r teuluoedd trwy eu timau cyfreithiol a bydd yn darparu’r cymorth priodol ar gyfer unrhyw gwest posibl yn y dyfodol.”