Heddlu'n atal ceir rhag mynd i Moncton, Canada
Yng Nghanada mae’r heddlu’n chwilio am ddyn arfog a saethodd dri phlismon yn farw ac anafu dau arall.
Mae March-Heddlu Brenhinol Canada wedi cyhoeddi enw’r dyn maen nhw’n ei amau o’r ymosodiad. Maen nhw wedi rhybuddio bod Justin Bourque, 24, o Moncton, New Brunswick yn arfog ac yn beryglus.
Mae’r heddlu’n canolbwyntio eu chwilio ar ddwy stryd yn Moncton.
Mae pobl sy’n bwy yn yr ardal wedi cael eu rhybuddio i aros yn eu cartrefi a chloi’r drysau, ac mae gyrwyr wedi cael eu cynghori i gadw draw o’r ardal.