Milwr yn Normandi, Ffrainc
Mae cannoedd o filwyr o Brydain fu’n cymryd rhan yn ymgyrch D-Day wedi teithio i Normandi heddiw ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i nodi 70 mlynedd ers y cyrch hanesyddol.
Mae mesurau diogelwch llym mewn lle wrth i 17 o arweinwyr, gan gynnwys y Frenhines, baratoi i deithio i ogledd Ffrainc yfory.
Mae’n debyg bod mwy na 650 o gyn-filwyr wedi teithio i Normandi i gofio’r digwyddiad a newidiodd hanes yr Ail Ryfel Byd.