Jeff Cuthbert
Ni ddylai unrhyw un sy’n dioddef yn sgil troseddau ddioddef mewn tawelwch, yn ôl y Gweinidog Cymunedau, Jeff Cuthbert.

Bydd y Gweinidog yn lansio cynllun newydd yn Abertawe heddiw i fynd i’r afael â throseddau yn y gymuned.

Nod y cynllun yw sicrhau y gall cymunedau gyd-fyw’n heddychlon a pharchu’i gilydd.

Tra bydd Jeff Cuthbert yn Abertawe, fe fydd e’n lansio prosiect newydd Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe sy’n herio torcyfraith yn seiliedig ar gasineb yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd a Phort Talbot.

Mae’r prosiect hwnnw wedi derbyn nawdd gan y Loteri Fawr am gyfnod o dair blynedd ac fe fydd yn canolbwyntio ar droseddau’n ymwneud ag anableddau, hil a chrefydd.

‘Ni ddylid goddef casineb’

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Jeff Cuthbert: “Rwy am fod yn glir nad oes croeso i unigolion neu grwpiau yng Nghymru sy’n lledaenu negeseuon o raniadau a chasineb.

“Ni ddylid goddef casineb a rhagfarn o unrhyw fath ac ni ddylid ei ystyried yn beth cyffredin.

“Ni ddylai dioddefwyr yn sgil troseddau casineb ddioddef mewn tawelwch.”

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar droseddau casineb, caethwasiaeth gyfoes, ymgysylltu â’r gymuned deithiol, mewnfudo a Chymunedau’n Gyntaf – meysydd sy’n “chwarae rhan bwysig wrth greu cymunedau mwy diogel, cynhwysfawr a chadarn”, yn ôl Jeff Cuthbert.

Er mwyn mynd i’r afael â’r meysydd hyn, mae wyth cydlynydd rhanbarthol wedi cael eu penodi tan 2016.