Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad yn dilyn marwolaeth dynes 88 oed mewn ysbyty.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi cadarnhau bod 10 aelod o staff wedi cael eu gwahardd o’u gwaith yn dilyn y digwyddiad a ddechreuodd ddydd Iau, 29 Mai yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod teulu’r claf,  Tegwen Roderick o Abercannaid, Merthyr Tudful, yn cael cymorth ac wedi cael gwybod am y datblygiadau yn yr ymchwiliad.

Ar 29 Mai cafodd Tegwen Roderick ei chludo i Ysbyty Cwm Cynon am 9.40yb.

Darganfuwyd bod ganddi anafiadau difrifol nad oedd modd eu hesbonio a chafodd ei chludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful lle bu farw ar 4 Mehefin.

Dywed yr heddlu nad oes cysylltiad ar hyn o bryd rhwng ei hanafiadau a’i marwolaeth a bydd post mortem yn cael ei gynnal heddiw.

Mae pedwar o bobl yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod wedi cynnal cyfarfod aml-asiantaeth y diwrnod canlynol i ystyried yr amgylchiadau, yn ôl yr arfer mewn achosion o’r fath.

Mae’r staff oedd ar ddyletswydd ar y pryd yn cael eu holi er mwyn cynorthwyo’r ymchwiliad, meddai’r llefarydd.