Car hunan-lywio Google
Mae Google wedi cyhoeddi eu bwriad i adeiladu car a fydd yn gallu llywio’i hun.

Mae disgwyl i’r car newydd gyrraedd cyflymdra uchaf o 25 milltir yr awr yn unig, ond ni fydd yn cael ei werthu i’r cyhoedd.

Fe allai 100 o geir arbrofol fod ar y ffyrdd erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae Google eisoes wedi arbrofi gyda cheir Lexus SUV a Toyota Prius sy’n cynnwys synwyryddion a chyfrifiaduron.

Er bod y ceir sydd wedi cael eu datblygu hyd yma’n ddibynnol ar yrrwr, ni fyddai’r car newydd yn gofyn am gael rhywun y tu ôl i’r olwyn.

Ni fydd gan y car frêcs na sbardun chwaith, a byddan nhw’n cael eu symud trwy wasgu botymau ‘mynd’ a ‘stopio’.

Ond yn ôl y gyfraith yng Nghaliffornia, rhaid i fersiynau prawf gynnwys olwyn a phedalau ac fe fydd y rheolau’n cael eu hadolygu unwaith bydd y ceir yn barod i fynd ar y ffyrdd.

Mae cyd-sylfaenydd Google wedi disgrifio’r broses o deithio yn y car fel “teithio mewn lifft gadair ar eich pen eich hun”.

Dywedodd Sergey Brin ei fod e wedi mwynhau’r profiad.

Mae’r car wedi’i bweru gan drydan ac fe fydd yn addas i deithio o amgylch trefi neu gampysau prifysgolion.