Mae elusen Achub y Plant wedi darogan y bydd pum miliwn o blant yn y DU yn byw mewn tlodi erbyn 2020.
Yn yr adroddiad ‘Dechrau’n Deg i Bob Plentyn’, mae’r elusen yn nodi mai plant sydd wedi dioddef waethaf yn sgil y dirwasgiad yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl yr elusen, roedd prisiau bwyd wedi codi 19% rhwng 2007 a 2011 ac fe fu cynnydd o 77% ym mhrisiau gofal plant rhwng 2003 a’r llynedd.
Er gwaethaf addewid amlbleidiol yn San Steffan i leihau tlodi plant erbyn 2020, mae’r elusen yn darogan y gallai’r nifer gynyddu 1.4 miliwn yn y cyfnod hwnnw – sy’n cyfateb i gynnydd o 41%.
Ar hyn o bryd, mae 3.5 miliwn o blant yn byw mewn tlodi.
‘Dechrau annheg mewn bywyd’
Dywedodd Prif Weithredwr Achub y Plant, Justin Forsyth: “Rydyn ni’n gynyddol bryderus, oni bai bod newid dramatig wrth gwrs, ein bod ni’n wynebu’r risg o droi ein cefn ar ddyfodol miliynau o blant Prydain, gan roi dechrau annheg iddyn nhw mewn bywyd.
“Nid mater o ystadegau’n unig yw hyn; rydyn ni’n gweld teuluoedd trwy ein rhaglenni o amgylch y DU sy’n cael gwir drafferthion.
“Mae miliynau o blant yn y DU yn cael eu gadael ar ôl – ac yn cael dedfryd o oes o dlodi. Does dim esgus.”
‘Angen strategaeth’
Daw sylwadau’r elusen yn dilyn cyfnod o ymchwil gan Landman Economics i doriadau cymorth cymdeithasol yn y dyfodol, ac maen nhw’n seiliedig ar amcangyfrifon y Sefydliad Astudiaethau Ariannol.
Mae Achub y Plant yn rhybuddio y gallai’r Ddeddf Tlodi Plant fynd yn ofer heb greu strategaeth i’w gweithredu.
Yn eu hadroddiad, mae’r elusen yn dweud bod tlodi plant yn cael effaith negyddol ar lwyddiant plant mewn arholiadau, gyda thraean yn unig o blant tlawd yn llwyddo i ennill pum gradd dda yn eu TGAU.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gall tlodi arwain at ordewdra.
Ychwanegodd Justin Forsyth fod rhaid i “wleidyddion wynebu graddfa’r argyfwng”.
Mae Achub y Plant yn galw am:
– Ofal plant fforddiadwy o’r radd flaenaf i bob plenty
– Gwarantu isafswm incwm i deuluoedd plant dan 5 oed
– Ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod plant 11 oed yn gallu darllen yn dda