Mae arddangosfa arbennig i groesawu tlws Cwpan Pêl-droed y Byd wedi cael ei chanslo ym Mrasil yn dilyn saethu plismon yn ystod protestiadau.

Cafodd y plismon ei saethu yn ei goes gyda bwa saeth yn ninas Brasilia.

Yn ystod y protestiadau a gafodd eu darlledu’n fyw, anelodd yr heddlu nwy dagrau at y dorf i’w tawelu.

Cafodd y tuniau nwy eu taflu’n ôl at yr heddlu, ynghyd â cherrig a darnau o bren.

.

Bu’n rhaid i’r plismon gael triniaeth ysbyty i gael tynnu’r bwa allan o’i goes.

Daeth y protestiadau i ben erbyn y nos.

Roedd tua 300 o bobol wedi ymgynnull i brotestio ynghylch deddfwriaeth sy’n bygwth lleihau maint cynefinoedd pobol gynhennid y wlad.

Roedd eraill yn protestio yn erbyn y ffaith fod Brasil yn cynnal y gystadleuaeth ym mis Mehefin, gan ddweud y dylai’r llywodraeth fod wedi gwario’r arian ar wella gwasanaethau cyhoeddus y wlad.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ar Fehefin 12 ac mae nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal yn y wlad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Y llynedd, ymgasglodd dros filiwn o bobol ar strydoedd Brasil yn ystod un noson.

Ddoe, roedd yna brotest arall gan 500 o athrawon yn Sao Paolo, yn y gobaith o gael cynyddu eu cyflogau.