Aaron Shingler
Mae dau bâr o frodyr yn mynd benben nos Wener wrth i chwaraewyr carfan Cymru gystadlu am le ar y daith i Dde Affrica.
Bydd Aaron Shingler y blaenasgellwr yn y tîm Tebygol, ac yn chwarae yn erbyn ei frawd, Steven, a fydd yn ganolwr yn y tîm Posibl.
Bydd canolwr Cymru Jonathan Davies yn chwarae yn erbyn ei frawd iau James, sydd ar fainc y tîm Posibl.
Hyfforddwr olwyr Cymru, Robert Howley, sy’n hyfforddi’r tîm Tebygol tra bod hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, yn hyfforddi’r tîm Posibl. Chwaraeodd y ddau yng ngêm dreial ddiwethaf carfan Cymru, ar faes Sain Helen Abertawe yn 2000.
Mae’r prawf cyntaf yn erbyn De Affrica ar Fehefin 14.
Dyma’r ddau dîm fydd yn cwrdd yn Stadiwm Liberty Abertawe, nos Wener, am 7.05:
Tebygol:
Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), Jordan Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Capten) (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Josh Turnbull (Scarlets), Aaron Shingler (Scarlets), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Lewis Evans (Dreigiau), Josh Navidi (Gleision), Rhodri Williams (Scarlets), Sam Davies (Gweilch), Dafydd Hewitt (Gleision).
Posibl:
Dan Fish (Gleision), Kristian Phillips (Scarlets), Cory Allen (Gleision), Steven Shingler (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), James Hook (Perpignan), Gareth Davies (Scarlets), Rob Evans (Scarlets), Matthew Rees (Capt) (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Ian Evans (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Ellis Jenkins (Gleision), Dan Baker (Gweilch).
Eilyddion: Kristian Dacey (Gleision), Owen Evans (Dreigiau), Scott Andrews (Gleision), Macauley Cook (Gleision), James Davies (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), Matthew Morgan (Gweilch), Jonathan Spratt (Gweilch).