Isidro Garcia
Mae merch a oedd yn 15 oed pan ddiflannodd o’i chartref 10 mlynedd yn ôl wedi dychwelyd at ei theulu ar ôl mynd at yr heddlu yng Nghaliffornia.
Dywedodd y ferch wrth yr heddlu ei bod wedi cael ei chipio gan gyn-gariad ei mam a’i fod wedi ymosod yn rhywiol arni, ei gorfodi i’w briodi a’u bod wedi cael plentyn.
Mae’r heddlu yn Santa Ana, Califfornia wedi arestio Isidro Garcia, 41 ar amheuaeth o gipio er mwyn treisio, carcharu ar gam ac ymosod yn anweddus ar blentyn.
Yn ôl yr heddlu cafodd y ferch ei cham-drin yn feddyliol, yn gorfforol ac yn rhywiol yn ystod ei chaethiwed a’i bod wedi cael ei symud o leiaf bedair gwaith ac wedi cael enwau ffug er mwyn ei chuddio rhag ei theulu a’r awdurdodau.
Honnir bod Garcia wedi dweud wrth y ferch bod ei theulu wedi rhoi’r gorau i chwilio amdani a phetai hi’n ceisio cysylltu â nhw fe fyddan nhw’n cael eu hestraddodi.
Dywedodd cymdogion eu bod nhw wedi eu synnu o glywed y newydd gan ddweud bod y cwpl yn ymddangos fel teulu hapus a oedd yn dotio at eu merch ifanc, ac yn cynnal partïon yn eu fflat yn Bell Gardens, tua 20 milltir o’r safle lle diflannodd.
Aeth y ddynes, sydd bellach yn 25 oed, at yr heddlu ddydd Llun ar ôl darganfod ei chwaer ar wefan Facebook.
Mae’n ymddangos bod y ferch wedi cyrraedd o Fecsico yn 2004 er mwyn ymuno a’i mam a’i chwaer yn Santa Ana. Roedd wedi dod i’r Unol Daleithiau yn anghyfreithlon ac nid oedd yn siarad Saesneg.
Garcia oedd cariad ei mam ar y pryd ac ar ôl ffrae rhwng y ddau, fe aeth y ferch i’r parc lleol. Roedd Garcia wedi ei dilyn a phan ddywedodd y ferch bod ganddi gur pen fe roddodd dabledi iddi gan ei gwneud yn anymwybodol. Pan ddeffrodd y ferch roedd wedi ei chloi mewn garej yn Compton, dinas rhwng Santa Ana a Los Angeles.
Er bod y fam wedi adrodd am ei diflaniad at yr heddlu roedd Garcia wedi newid enw a dyddiad geni’r ferch sawl gwaith a’u symud droeon gan ei wneud yn anodd iawn i’r heddlu ddod o hyd iddi.
Fe geisiodd y ferch ddianc ddwywaith ond cafodd ei dal a’i churo ganddo.
Daw’r achos flwyddyn ar ôl i dair merch – Amanda Berry, Gina DeJesus a Michelle Knight – oedd wedi mynd ar goll ddegawd ynghynt, gael eu hachub o dy yn Cleveland, Ohio.