Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi cynnydd yn ei elw blynyddol o ganlyniad i dwf yn ei adran dosbarthu parseli.

Dyma’r canlyniadau ariannol cyntaf ers y penderfyniad dadleuol i werthu cyfrannau’r Post Brenhinol ar y farchnad stoc am £3.3 biliwn ym mis Hydref y llynedd.

Dywed y cwmni bod ei elw wedi cynyddu i £430 miliwn yn y flwyddyn hyd at 30 Mawrth, o’i gymharu â £403 miliwn y llynedd.

Dywedodd bod ei berfformiad o ran llythyron yn well na’r disgwyl gyda’r elw wedi gostwng 2% i £4.6 biliwn o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.

Roedd elw’r adran parseli wedi cynyddu 7% ond roedd nifer y parseli gafodd eu dosbarthu wedi aros yn ei unfan o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.

Dywedodd y prif weithredwr Moya Greene bod y gystadleuaeth o ran dosbarthu parseli wedi “dwysau” ond eu bod yn cymryd camau i barhau yn un o’r arweinwyr yn y farchnad.