Timau achub yn Nhwrci ddoe
Mae nifer y bobol fu farw yn dilyn trychineb glofaol yn Nhwrci wedi cynyddu i 282.
Golyga hynny fod mwy wedi marw bellach na fu farw mewn trychineb tebyg yn y wlad yn 1992 – 263 fu farw bryd hynny.
Dywed llywodraeth Twrci bod eu gobeithion o ddod o hyd i ragor o bobol yn fyw yn dechrau pylu, ond bod eu hymdrechion yn canolbwyntio ar ddau fan arbennig y tu fewn i’r pwll yn Soma.
Mae fflamau yn dal ynghyn y tu fewn i’r safle, sydd wedi gwneud yr ymdrechion i achub gweithwyr yn fwy anodd.
Roedd 787 o bobol yn y pwll pan ddigwyddodd y ffrwydrad ddydd Mawrth, ond fe gafodd 363 eu hachub.
Protestiadau
Mae protestwyr yn erbyn y llywodraeth wedi bod yn ymgynnull ger y pwll ac yn ninasoedd Instanbul ac Ankara.
Cafodd y Prif Weinidog Recep Tayyip Erdogan ei alw’n “llofrudd” a “lleidr” gan y dorf oedd yn aros i’r cyrff gael eu tynnu o’r pwll, ac fe fu’n rhaid iddo ffoi i archfarchnad gyfagos, wedi’i amddiffyn gan yr heddlu.
Mae disgwyl i Erdogan sefyll fel ymgeisydd arlywyddol y wlad ym mis Awst, ond fe allai’r trychineb effeithio’n fawr ar ei ymgyrch.
Mae e eisoes wedi cyhuddo rhai protestwyr o geisio’i bardduo cyn iddo benderfynu sefyll.
Cafodd ffenestri pencadlys plaid lywodraethol yr NKP eu torri yn ystod y protestiadau, a chafodd carfan o brotestwyr eu hatal rhag gorymdeithio i Sgwâr Taksim i ddangos eu dicter.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe, gwrthododd ddweud pwy oedd yn gyfrifol am y trychineb.
Fe fu’n rhaid rhoi’r gorau i’r ymdrechion i achub pobol am rai oriau ddoe oherwydd nwy y tu fewn i’r pwll.
Cafodd rhai o’r cyrff eu claddu ddoe wrth i lywodraeth y wlad gyhoeddi tridiau o alaru.