Mae Carphone Warehouse a pherchennog Currys a PC World wedi cyhoeddi cynllun i uno a fyddai’n golygu bod y busnes yn werth £3.7 biliwn.
Fe fydd y cytundeb arfaethedig rhwng Carphone a Grŵp Dixons yn creu cwmni newydd fydd a mwy na 1,300 o siopau yn y DU.
Dywed Dixons y bydd y cytundeb yn creu “cwmni Prydeinig o’r radd flaenaf ar gyfer yr oes ddigidol.”
Mae disgwyl i Syr Charles Dunstone, a oedd wedi ffurfio Carphone ym 1989, fod yn gadeirydd y grŵp newydd.
Dixons Carphone fydd enw’r cwmni newydd.