Mae lluoedd llywodraeth yr Wcrain wrthi’n ceisio adennill rheolaeth ar dref Kramatorsk yn nwyrain y wlad

Yn ôl neges gan y Gweinidog Cartref Arsen Avakov ar Facebook, fe wnaeth y Gwarchodlu Cenedlaethol a’r lluoedd arfog gychwyn cyrch newydd ar doriad gwawr y bore yma.

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, mae’r lluoedd wedi cipio tŵr teledu yn y dref.

Mae gweithgaredd y lluoedd arfog wedi canolbwyntio’n bennaf hyd yma ar ddinas Slovyansk gerllaw, lle mae’r awdurdodau’n ceisio ynysu’r gwrthryfelwyr yno.

Mae gwrthryfelwyr Rwsiaidd wedi cipio adeiladau’r llywodraeth mewn tua dwsin o drefi a dinasoedd yn nwyrain yr Wcrain, ac mae adroddiadau am dros 30 o bobl wedi cael eu lladd yn yr ymladd yno dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran gweinyddiaeth amddiffyn y wlad y bydd ‘cyrch gwrth-derfysgol’ yn digwydd mewn trefi’r tu hwnt i Slovyansk a Kramatorsk.