Bwriad Llafur yw symud silffoedd diodydd archfarchnadoedd yn ddigon pell o'r drysau (llun Silar CCA 3.0)
Os bydd yn ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, bydd llywodraeth Lafur yn cyflwyno cyfyngiadau llym ar werthu a hysbysebu alcohol.
Mae’r mesurau’n cynnwys cyflwyno isafswm pris ar alcohol a gwahardd cwmnïau diodydd rhag noddi digwyddiadau chwaraeon.
Byddai gwaharddiadau o’r fath yn effeithio ar 11 o dimau pêl-droed yr Uwch Gynghrair ac yn rhwystro Budsweiser rhag noddi cwpan yr FA, Heinekein rhag cynnal twrnameint rygbi Ewrop a Crabbie rhag cefnogi’r Grand National.
Yn ogystal ag isafswm pris, mae Llafur hefyd yn annog cyfyngiadau ar y ffordd y caiff diodydd eu gwerthu mewn archfarchnadoedd.
Yr awgrym yw cyfyngu’r silffoedd diodydd i ran penodol o’r siop a fyddai’n ddigon pell o’r drws.
Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i hybu byw iach, fe fyddai llywodraeth Lafur hefyd yn gwahardd rhai mathau o rawnfwyd brecwast sy’n cynnwys gormod o siwgr a gwahardd gwerthu melysion wrth ymyl y til mewn archfarchnadoedd.