Heddlu Irac oedd y targed
Mae beth bynnag ddeg o bobol wedi cael eu lladd, a 18 arall wedi’u hanafu, mewn ymosodiad gan hunanfomiwr ar safle heddlu i’r de o brifddinas Irac.
Fe yrrodd y bomiwr ei gar yn llawn ffrwydron i mewn i checkpoint wrth y fynedfa i ddinas Hillah sydd tua 60 milltir i’r de o Baghdad.
Fe laddwyd chwech o bobol gyffredin a phedwar plismon. ivilians and four policemen.
Y mis diwetha’, fe drawodd hunanfomiwr safle arall gerllaw, gan ladd 36 o bobol.