Joe Biden
Mae is-Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio Rwsia y dylai hi weithredu i ddatrys yr anghydfod yn yr Wcrain ac annog gwrthryfelwyr Rwsiaidd i roi’r gorau i’w protest.

Ar ymweliad â dwyrain Ewrop, fe gyhoeddodd Joe Biden bod yr Unol Daleithiau’n rhoi $50 miliwn yn rhagor o gymorth i’r Wcrain, gan gynnwys arian i gynnal etholiad am swydd yr arlywydd ym mis Mai.

“Rhaid i Rwsia weithredu ar unwaith,” meddai. “All hon ddim â bod yn broses benagored.”

Argyfwng

Joe Biden yw’r gwleidydd ucha’i statws o Washington i ymweld â’r Wcrain ers i’r argyfwng yno ddechrau ac fe roddodd addewid o gefnogaeth yr Unol Daleithiau wrth amddiffyn y wlad.

Un nod, meddai, oedd sicrhau bod yr Wcrain yn annibynnol ar Rwsia am ei hynni. Fe fyddai hynny’n newid ei sefyllfa’n llwyr.

Mae’r cymorth hefyd yn cynnwys arian at ddibenion milwrol anymosodol, fel cael gwared ar fomiau tir.