Sain Ffagan
Roedd penwythnos y Pasg yn “brysur iawn” i fusnesau ledled Cymru, gyda rhai cwmnïau’n gweld y cyfnod prysuraf yn eu hanes.

Ddoe yn unig, fe fu 12,236 o bobol yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd ac fe aeth 310 o feicwyr draw i Flaenau Ffestiniog i ddefnyddio eu llwybrau beicio mynydd.

Roedd y tywydd braf yn hwb mawr i ddenu ymwelwyr, meddai rheolwyr, ac mae’r ffigyrau cadarnhaol yn arwydd fod yr economi yn gwella.

‘Arwydd o’r hyn sydd i ddod’

Yn ôl Bethan Aur o Sain Ffagan, dyma gyfnod prysuraf y flwyddyn i’r amgueddfa hyd yma:

“Rydym ni wedi gwneud yn dda iawn eleni ac yn hapus iawn hefo ymateb y cyhoedd.

“Mae’n arwydd o’r hyn sydd i ddod o ran twristiaeth gobeithio, cyn ein prosiectau ail-ddatblygu sy’n mynd i fod yn ailwampio einn prif fynedfa a’r orielau.

Ffigyrau’n plesio

Un busnes sydd heb fod yn dibynnu cymaint ar dywydd braf yw canolfan natur Pili Palas ar Ynys Môn. Ond, er gwaetha’r tywydd, mae un o reolwyr y ganolfan y dweud eu bod yn “hapus” hefo ffigyrau ymwelwyr dros benwythnos y Pasg:

“Mae ymwelwyr o gwmpas – mae hynny’n amlwg ac yn arwydd da iawn” meddai Gwawr Townsend Bell, cyfarwyddwr Pili Palas.

“O ran ein busnes ni, dydan ni ddim yn cael gymaint o ymwelwyr ar ddiwrnodau braf oherwydd nad ydy pobol eisiau bod y tu mewn.

“Er hyn, mi rydan ni’n hapus hefo’r ffigyrau ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y flwyddyn ac i’r economi.”

Bwrlwm Blaenau

Ar ôl cyfnod prysur yn cynnal Pencampwriaeth Beicio Lawr Allt Prydain y mis diwethaf, mae menter gymdeithasol Antur Stiniog yn mynd o nerth i nerth.

Roedd tua 310 o feicwyr wedi defnyddio’r ganolfan feicio o ddydd Iau i ddydd Llun, sy’n “lot fawr o feicwyr” yn ôl rheolwr y siop awyr agored, Helen McAteer.

“Roedden ni hefyd yn helpu’r clwb pêl-droed lleol i redeg ras y Moelwyn ddydd Sadwrn,” meddai “ac mi oedd ‘na tua 156 o bobol yn rhedeg – sy’n fwy o redwyr nag erioed”.

“Roedden ni’n brysur iawn yn y siop dydd Iau a dydd Gwener hefyd ac mae’r ganolfan feicio lawr allt wedi bod o dan ei sang.”