Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae Arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi treulio’r Pasg yn ymweld â phentref Cristnogol sydd newydd cael ei ad-feddiannu gan luoedd ei lywodraeth.

Yn ôl asiantaeth newyddion y wlad, fe fu Assad ym mhentref Maaloula, 40 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Damascus, yn gweld y difrod sydd wedi cael ei achosi i’r mynachlogydd ac eglwysi yno.

Cafodd y pentref ei gipio gan wrthryfelwyr sawl gwaith y llynedd, ond fe gawson nhw eu gorfodi i ffoi oddiyno gan luoedd y llywodraeth ddechrau’r wythhnos.

Mae’r pentref yn gartref i boblogaeth Gristnogol, ac roedd ailgipio’r pentref yn fuddugoliaeth symbolaidd bwysig i’r llywodraeth sy’n awyddus i gael ei gweld fel gwarchodwr lleiafrifoedd crefyddol. Mae Cristnogion Syria wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i lywodraethau’r teulu Assad dros y degawdau.

Yn ystod ei ymweliad, addawodd Assad y byddai’n amddiffyn Cristnogion – sy’n ffurfio tua 10% o boblogaeth Syria – ac yn gwarchod eglwysi, gan eu disgrifio fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol y wlad.

“Bydd Maaloula yn parhau’n gadarn yn erbyn barbariaeth pawb o’r rheini sy’n targedu’r famwlad,” meddai.