Oscar Pistorius yn y llys yn Pretoria
Mae’r prif erlynydd yn achos Oscar Pistorius wedi gorffen croesholi’r athletwr am sut y bu iddo ladd ei gariad Reeva Steenkamp.

Yn y Llys yn Pretoria, De Affrica y bore ‘ma, dywedodd yr erlynydd Gerrie Nel nad oedd ganddo fwy o gwestiynau i ofyn i Pistorius, ar ôl pum diwrnod o holi dwys.

Ddoe, fe wnaeth Gerrie Nel gyhuddo Pistorius o roi tystiolaeth anghyson ac o ddweud celwydd am sut y bu iddo ladd ei gariad.

Mae Pistorius wedi cyfaddef saethu Reeva Steenkamp drwy ddrws ystafell ‘molchi ei gartref y llynedd, ond yn honni ei fod wedi saethu’r fodel 29 oed drwy ddamwain gan gredu mai lleidr oedd hi.

Ond mae’r erlyniad yn ei gyhuddo o’i llofruddio ar ôl i’r ddau gael ffrae.

Mae’r athletwr yn wynebu 25 mlynedd yn y carchar os yw’n cael ei gael yn euog o lofruddio yn fwriadol.