Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i dri o bobol gael eu hanafu mewn damwain ffordd ddifrifol ger Abertawe ddoe.

Roedd car  arian Ford Mondeo, a oedd yn teithio ar ffordd ger Parc Carafanau Riverside yn Ynysforgan, Treforys wedi gadael y ffordd a tharo i mewn i goed.

Digwyddodd y ddamwain tua 5.50 yr hwyr.

Cafodd y gyrrwr 47 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dioddef o anafiadau difrifol.

Cafodd dyn arall 47 oed a merch 21 oed oedd yn teithio yn y car eu cludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y car i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.