William Hague
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhuddo Rwsia o “ansefydlogi bwriadol” yn yr Wcráin wrth i wrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia gipio gorsaf heddlu arall yn nwyrain y wlad.

Wrth iddo gyrraedd yn Lwcsembwrg ar gyfer trafodaethau rhwng gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, alw am “ymateb rhyngwladol clir ac unedig”  i’r troseddau diweddaraf.

Dywedodd bod angen i swyddogion yr UE fwrw ymlaen â pharatoadau ar gyfer rhagor o sancsiynau economaidd yn erbyn Rwsia os yw’n parhau â’i hymdrechion i danseilio’r wlad.

Mae Moscow wedi gwadu mai nhw sydd y  tu ôl i’r ymosodiadau diweddaraf ar orsafoedd heddlu ac adeiladau cyhoeddus eraill ond dywedodd William Hague nad oedd gan Rwsia unrhyw fath o hygrededd.

Mae David Cameron hefyd wedi torri ar draws ei wyliau Pasg yn Lanzarote i drafod y sefyllfa gyda Changhellor yr Almaen Angela Merkel.

Roedd yn bwriadu  siarad ag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande hefyd.