Oscar Pistorius
Mae’r prif erlynydd yn achos Oscar Pistorius wedi cyhuddo’r athletwr o roi tystiolaeth anghyson ac o “deilwra ei fersiwn” o sut y bu iddo ladd ei gariad i gyd-fynd hefo’r dystiolaeth ar safle’r drosedd.

Cafodd yr achos ei ohirio’r bore ‘ma, wedi i Pistorius fod yn ei ddagrau unwaith eto wrth  son am sut y bu farw Reeva Steenkamp yn ei gartref y llynedd.

Gofynnodd y prif erlynydd Gerrie Nel iddo beth a ddigwyddodd yn yr eiliadau cyn iddo saethu ei gariad y tu ôl i ddrws yr ystafell ymolchi.

Mae Pistorius yn honni ei fod wedi saethu’r fodel 29 oed drwy ddamwain, gan gredu mai lleidr oedd hi.

Ond mae’r erlyniad yn ei gyhuddo o’i llofruddio ar ôl i’r ddau gael ffrae.

Mae Pistorius wedi cyfaddef saethu Reeva Steenkamp ond mae’n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.