Mae ffermwr wedi cael ei ddirwyo am beidio cael gwared ag anifeiliaid marw’n gywir.

Cafodd Richard Morgan Davies, o Aberedw ger  Llanfair ym Muallt, orchymyn i dalu mwy na £1,800 yn Llys Ynadon Aberhonddu heddiw.

Roedd wedi pledio’n euog i chwe chyhuddiad yn ei erbyn am dorri rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Cafodd naw ar hugain o droseddau eraill  eu hystyried ar ôl i 34 o gyrff defaid gael eu darganfod ar ei dir. Cafodd hefyd ryddhad amodol am ddwy flynedd.

Mae ffermwyr nawr yn cael eu rhybuddio i gael gwared a chyrff anifeiliaid yn gywir.