Milwyr sy'n cefnogi Rwsia yn gwneud bariced o deiars o flaen adeilad y Llywodraeth yn yr Wcrain
Mae ’na “bryder dybryd” ynglŷn â’r argyfwng yn y Wcráin yn dilyn gwrthdaro yn nwyrain y wlad a honiadau bod miloedd o filwyr o Rwsia wedi ymgasglu ger y ffin.

Bu arweinwyr byd yn cynnal cyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig heddiw ar ôl i filwyr sy’n cefnogi Rwsia feddiannu adeiladau’r Llywodraeth dros y penwythnos a chafodd swyddog diogelwch o’r Wcráin ei ladd gan filwyr.

Mae Moscow wedi gwadu ei bod y tu ôl i’r datblygiadau diweddaraf ond mae Prydain wedi dweud y bydd yn cymryd yn ganiataol bod Rwsia yn gyfrifol nes ei bod yn condemnio’r gweithredoedd.

Fe fydd Ysgrifennydd Tramor Prydain William Hague yn cwrdd ag ysgrifenwyr tramor eraill Ewrop yn ddiweddarach i drafod y datblygiadau diweddaraf yn yr Wcráin.

Wrth drafod y mater cyn cyfarfod o’r cyngor diogelwch yn Efrog Newydd, fe rybuddiodd llysgennad y DU i’r Cenhedloedd Unedig,  Syr Mark Lyall Grant am “ddatblygiad peryglus mewn sefyllfa sydd eisoes yn beryglus” a dywedodd bod “pryder dybryd” am y sefyllfa.

Mae lluniau lloeren yn dangos tua 35,000 i 40,000 o filwyr Rwsia ar y ffin a’r Wcrain, ynghyd ag awyrennau milwrol, tanciau a gynnau, ynghyd a’r 25,000 o filwyr Rwsia sydd eisoes yn y Crimea yn anghyfreithlon.

Fe gyhoeddodd Arlywydd dros dro’r Wcrain Oleksandr Turchynov ddoe y byddai’n anfon milwyr yno i atal ymosodiadau a lluoedd Rwsia rhag meddiannu’r Wcrain, ac osgoi sefyllfa debyg i’r hyn ddigwyddodd yn y Crimea.