Llwyddodd Tîm yr Wythnos golwg360 i gipio buddugoliaeth hanesyddol brynhawn ddoe, wrth i Glwb Pêl-Droed Llanrug ennill Tlws CBD Cymru o flaen cannoedd o gefnogwyr yn y Rhyl.

Kevin Lloyd oedd seren y gêm, gan rwydo dwy i Lanrug wrth iddyn nhw drechu Chirk AAA o 3-2 mewn gêm agos ar y Belle Vue.

O flaen tua 350 o dorf bu’r hanner cyntaf yn ddi-sgôr, gyda digon o daclo caled a chardiau melyn ond y cyfleoedd am gôl yn brin.

Ond o fewn chwarter awr i mewn i’r ail hanner roedd Llanrug ddwy ar y blaen, gyda David Noel Williams yn penio’r gyntaf ar ôl i groesiad daro’r trawst cyn i Kevin Lloyd ddyblu’r fantais gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi pedair munud yn ddiweddarach.

Ond fe darodd Chirk yn ôl yn syth – gan goroni chwe munud gwyllt o chwarae – wrth i’w capten Phil Pearce benio’r bêl i gefn y rhwyd i’w gwneud hi’n 2-1 ar ôl 62 munud.

Roedd hi’n ymddangos ar ben pan lwyddodd Lloyd i benio’i ail o’r gêm i Lanrug ddeg munud cyn y diwedd, gan ymestyn mantais y tîm yn ôl i ddwy gôl.

Ac er i Jamie Foulkes rwydo gôl arall i Chirk yn yr amser ychwanegol am anafiadau roedd hi’n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth, gyda Llanrug yn dathlu ennill y Tlws am y tro cyntaf erioed.

Yn dilyn y fuddugoliaeth fe dalodd rheolwr Llanrug Aled Owen deyrnged i’r holl gefnogwyr a deithiodd draw i gefnogi’r tîm.

“Mae’n briliant tydi – jyst y peth i bentra bach Llanrug,” meddai Aled Owen. “Gobeithio’u bod nhw ‘di mwynhau’r diwrnod cymaint â ni!”

Gwyliwch rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod a dathliadau Llanrug ar y diwedd:

.

Llanrug

Dylan Roberts, Darren Phillips (Andrew Garlick, 85′), Matthew Phillips, Terry Jones, Eifion Williams, Dylan Owen, Rhys Roberts (Jonathan Peris Jones, 77′), David Noel Williams, Marvin Pritchard (Dan Pyrs, 34′), Kevin Lloyd, Carl Griffiths

Goliau: DN Williams 57’, Lloyd 60’ 81’

Chirk AAA

Ryan Roberts, Jamie Foulkes, Jamie Jones, Jason Williams, Phil Pearce, Andy Morris (Shaun Morris, 27′), Nicky Williams, Chris Bennion, Aaron Blackwell (Ben Jones, 72′), Nic Jones (Khos Jones, 72′), Adam Jones

Goliau: Pearce 62’, Foulkes 90+2’

Tybed ydy sylw Tîm yr Wythnos Golwg360 wedi dod â lwc dda i Lanrug? Cysyllwch â ni os hoffech i’ch clwb chi gael sylw Tîm yr Wythnos nesaf.