Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y bydd un o flaenwyr Seland Newydd yn ymuno â nhw ddiwedd y tymor.

Mae Jarrad Hoeata, sy’n 30 oed ac yn 6 throedfedd 5 modfedd o daldra ac yn pwyso dros 17 stôn, wedi ennill tri chap dros Seland Newydd. Mae’n chwarae i glwb yr Highlanders ar hyn o bryd, un o brif glybiau cynghrair y Super 15.

Bydd Hoeata yw’r diweddaraf o’i gydwladwyr i gael eu denu i Gaerdydd, ac mae’n dilyn yn ôl troed Xavier Rush, Paul Tito, Ben Blair, Michael Paterson a Jonah Lomu.