Scarlets 27–20 Zebre
Rhoddwyd hwb i obeithion y Scarlets o chwarae yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd y tymor nesaf gyda buddugoliaeth mewn gêm agos yn erbyn Zebre ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.
Mae’n rhaid i Fois y Sosban orffen yn chwech uchaf y RaboDirect Pro12 i sicrhau eu lle ac maent bellach ddeg pwynt yn glir o Gaeredin yn y seithfed safle ar ôl trechu’r Eidalwyr, Zebre, o saith pwynt.
Hanner Cyntaf
Er i gicio Rhys Priestland fod yn hynod siomedig am weddill y gêm fe ddechreuodd yn addawol gyda dwy gic gosb lwyddiannus yn y deg munud cyntaf.
Hanerodd Gonzalo Garcia y fantais gydag un i Zebre cyn i Samuela Vunisa groesi am gais cyntaf y gêm wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae. Cododd yr wythwr y bêl o fôn sgrym bump cyn hyrddio drosodd am gais syml.
Chwaraeodd Vunisa ran yn yr ail gais bum munud yn ddiweddarach hefyd. Yr wythwr, o bawb, a anelodd gic gywir i’r gornel cyn i’r asgellwr Giulio Toniolatti guro ras yn erbyn Jonathan Davies i gyrraedd y bêl gyntaf a sgorio ail gais yr Eidalwyr.
Caeodd Priestland y bwlch i bedwar pwynt gyda chic gosb wedi hynny ond roedd llinell gais y Scarlets dan warchae eto ym munudau olaf yr hanner cyntaf.
Gyda Sione Timani yn y gell gosb bu rhaid i Fois y Sosban ddibynnu ddwywaith ar y dyfarnwr teledu i atal dau gais i flaenasgellwr Zebre, Filippo Ferrarini.
Ail Hanner
Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn dipyn mwy pwrpasol a daeth eiliad gorau’r gêm o bell ffordd pan sgoriodd Jordan Williams gais gwych ar ddechrau’r ail gyfnod. Dechreuodd yr asgellwr y symudiad ar ei linell gais ei hunan cyn cyfuno’n wych gyda Liam Williams i sgorio cais hyd-y-cae arbennig. 16-13 y sgôr wedi trosiad Priestland.
Ymestynnwyd y fantais honno i wyth pwynt pan groesodd Ken Owens am ail gais ddeg munud yn ddiweddarach ac roedd pethau’n ymddangos yn gyfforddus i’r Cymry wedi i gic gosb Priestland ei gwneud hi’n 24-13 toc cyn yr awr.
Yn ôl y daeth Zebre eto serch hynny ac roeddynt yn y gêm eto chwarter awr o’r diwedd wedi i Garcia dorri trwy dacl Priestland yn rhy rhwydd o lawer i groesi o dan y pyst.
Roedd angen tri phwynt arall felly gan faswr y Scarlets i ddiogelu’r fuddugoliaeth ac i wneud yn siŵr nad oedd Zebre yn cael dim mwy na phwynt bonws cwbl haeddiannol.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn chweched yn y tabl gyda gêm holl bwysig yn erbyn y Gleision yn Stadiwm y Mileniwm i ddod brynhawn Sul nesaf.
.
Scarlets
Ceisiau: Jordan Williams 43’, Ken Owens 52’
Trosiad: Rhys Priestland 43’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 3’, 9’, 37’, 58’, 69’
Cerdyn Melyn: Sione Timani 38’
.
Zebre
Ceisiau: Samuela Vunisa 27’, Giulio Tonilatti 33’, Gonzalo Garcia 65’
Trosiad: Luciano Orquera 66’
Cic Gosb: Gonzalo Garcia 14’