Treviso 45–27 Dreigiau Casnewydd Gwent

Mae diweddglo siomedig y Dreigiau i’w tymor yn y RaboDirect Pro12 yn parhau wedi iddynt gael cweir yn erbyn Treviso yn y Stadio Monigo nos Sadwrn.

Sgoriodd yr Eidalwyr bum cais yn erbyn tri’r Dreigiau wrth ennill yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Y Dreigiau oedd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i ddwy gic gosb o droed Jason Tovey cyn i’r ceisiau ddechrau llifo.

Daeth y cyntaf i asgellwr Treviso, Ludovico Nitoglia, wedi i gic Dan Evans gael ei tharo i lawr gan Robert Barbieri.

Methodd Mat Berquist y trosiad ond gwnaeth yn iawn am ei gam gan drosi tair cic gosb arall i ychwanegu at ei un cynnig cynharach i roi tri phwynt ar ddeg rhwng y ddau dîm ar yr hanner.

Ail Hanner

Roedd y gêm fwy neu lai ar ben wedi deg munud o’r ail hanner ar ôl i Luke McLean a Michelle Campagnaro ychwanegu ail a thrydydd cais i’r tîm cartref, 31-6 y sgôr gydag ychydig llai na hanner awr i fynd.

Y Dreigiau a gafodd y cais nesaf wrth i’r pac hyrddio Matthew Screech drosodd i dirio ond roedd y bwlch wedi ail agor a’r pwynt bonws wedi ei sicrhau i Treviso yn fuan wedyn pan groesodd Manoa Vosawai am bedwerydd cais yr Eidalwyr.

Doedd dim amheuaeth am y canlyniad felly yn y chwarter awr olaf ond roedd digon o amser ar ôl am dri chais arall mewn gêm gyffrous.

Croesodd Ross Wardle a Cory Hill i’r ymwelwyr o Gymru a’r eilydd brop, Matteo Muccignat, i’r tîm cartref, 45-27 y sgôr terfynol.

Mae’r Dreigiau’n aros yn ddegfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond dim ond dau bwynt sydd yn eu gwahanu hwy bellach a’r Eidalwyr yn yr unfed safle ar ddeg.

.

Treviso

Ceisiau: Ludovico Nitoglia 22’, Luke McLean 44’, Michelle Campagnaro 51’, Manoa Vosawai 61’, Matteo Muccignat 65’

Trosiadau: Mat Berquist 22’, 44’, 61’, 65’

Ciciau Cosb: Mat Berquist 28’, 31’, 37’

.

Dreigiau

Ceisiau: Matthew Screech 57’, Ross Wardle 64’, Cory Hill 71’

Trosiadau: Jason Tovey 57’, 64’, 71’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 10’, 21’