Llong Ocean Shield
Mae’r timau sy’n chwilio am awyren goll Malaysia Airlines wedi methu a darganfod lleoliad signalau a gafodd eu clywed yng Nghefnfor India sy’n gyson a’r signal o flwch du awyren.
Mae offer arbenigol ar fwrdd y llong Ocean Shield wedi methu a darganfod y signal a glywyd yn hwyr nos Sadwrn ac eto bore dydd Sul.
Mae ’na bryderon na fydd y batri yn y blwch du yn parhau llawer hirach.
Mae hi’n union fis yn ôl ers i’r awyren ddiflannu gyda 239 o bobl ar ei bwrdd yn ystod taith o Kuala Lumpur i Beijing.
Parhau mae’r chwilio am unrhyw weddillion yn y môr.