Plant mewn gwasanaeth yn Rwanda (Llun: elusen)
Fe fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Rwanda yfory er mwyn cofio am y rhai fu farw pan wnaeth aelodau o dylwyth yr Hutu ladd miloedd o aelodau o dylwyth y Tutsi dros gyfnod o 100 niwrnod yn 1994.
Cynhaliwyd gwasanaethau coffa mewn sawl lle heddiw.
Mae rhai yn amau bod 800,000 wedi cael eu lladd yn ystod y gyflafan gychwynodd ar ol i’r Arlywydd Juvenal Habyarimana gael ei ladd mewn damwain awyren ar 6 Ebrill y flwyddyn honno.
Daeth yr ymladd i ben ar ôl i fyddin yr RTF dan arweiniad y Tutsis orchfygu lluoedd y llywodraeth ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn.
Cyhuddiadau
Mae Llywydd Rwanda, Paul Kagame, wedi cyhuddo Ffrainc droeon o fod wedi cymeryd rhan yn y lladd ugain mlynedd yn ôl ac mae Llywodraeth Ffrainc wedi gwadu hynny.
Yn dilyn ail adrodd y cyhuddiadau yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Gweinidog Cyfiawnder Ffrainc, Christiane Taubira wedi canslo cynlluniau i fynychu’r digwyddiadau yn Kigali, prifddinas Rwanda yfory.