Mae llyngesau Prydain ac Awstralia yn parhau i geisio darganfod bocsys du’r awyren goll o Falaysia, ddyddiau yn unig cyn y bydd y signal sydd yn dod ohonynt ddiflannu.

Bydd cychod y ddwy lynges yn treulio’r dyddiau nesaf yn archwilio darn o fôr 150 milltir o hyd yn ne Cefnfor India wrth iddyn nhw geisio darganfod y dystiolaeth hanfodol.

Mae’r bocsys du, sydd yn cofnodi’r holl ddigwyddiadau ar awyren, yn darlledu signal fydd yn medru cael ei adnabod gan ddeunydd ar y cychod.

Ond dyw batri’r bocsys du ddim ond yn para am tua 30 diwrnod gan olygu, os na chawn nhw eu darganfod yn y dyddiau nesaf, y byddai’n mynd yn dasg anoddach fyth.

Fe ddiflannodd awyren MH370 o Falaysia ar 8 Mawrth, ychydig oriau wedi iddi adael maes awyr Kuala Lumpur ar y ffordd i Beijing.

Ar ôl astudio gwybodaeth lloerennau mae’r awdurdodau bellach yn credu ei bod wedi newid cyfeiriad ac wedi hedfan tuag ar dde Cefnfor India, cyn cwympo i’r môr.

Hyd yn hyn does neb wedi darganfod unrhyw arwydd o weddillion yr awyren, a fyddai wedi bod o help mawr wrth geisio canfod y man ble y disgynnodd hi.

Ar hyn o bryd mae 14 awyren a naw cwch yn chwilio yn y cefnfor oddi ar arfordir gorllewinol Awstralia am arwyddion o’r awyren.