Mae llofrudd y ferch ysgol, Milly Dowler, wedi derbyn iawndal o £4,500 ar ôl i garcharor arall ymosod arno.

Bu ymosodiad ar Levi Bellfield gan garcharor arall yng Ngharchar Wakefield yn 2009, tra’r oedd yn aros i fynd o flaen y llys am lofruddio Dowler, oedd yn 13 oed.

Dim ond man anafiadau a gafodd Bellfield, yn ôl papur newydd y Daily Mirror, ond fe ddechreuodd achos cyfreithiol gan honni y dylai staff y carchar fod wedi’i amddiffyn.

Fe aeth yr achos ymlaen am dair blynedd, cyn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder orfod cyfaddef eu bod yn derbyn cyfrifoldeb am y mater yn Llys Sirol Durham ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran y weinidogaeth eu bod wedi “siomi’n fawr” gyda’r penderfyniad, gydag AS Llafur Ian Austin, sydd ar y Pwyllgor Dethol Materion Cartref, yn dweud wrth y papur y byddai unrhyw berson iawn ei feddwl “yn cytuno fod hyn yn atgas ac yn anghywir”.

Cafodd Bellfield ei ddedfrydu i ddwbl oes mewn carchar am ladd Milly Dowler, ar ôl iddi gael ei chipio ar y ffordd adref yn 2002.

Roedd Bellfield eisoes wedi cael dedfryd oes am lofruddio Amelie Delagrange a Marsha McDonnell, ac am geisio lladd Kate Sheedy.