Vladimir Putin
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague yn wynebu cwestiynau ynglŷn â’r camau nesaf ynglŷn â’r argyfwng yn yr Wcrain ar ôl i Rwsia herio sancsiynau’r Gorllewin a chydnabod y Crimea fel “gwlad annibynnol.”

Mae’r Arlywydd Vladimir Putin wedi arwyddo cytundeb sy’n caniatáu i’r rhanbarth for yn rhan o Rwsia, oriau’n unig ar ôl i’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd gyhoeddi cyfyngiadau teithio ar rai o uwch swyddogion Moscow a rhewi eu hasedau.

Mae William Hague wedi rhybuddio Putin y bydd “canlyniadau difrifol” os nad yw’n rhoi’r gorau i’w ymyrraeth yn y wlad.