Mae chweched person wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn dau floc o fflatiau yn Ninas Efrog Newydd ddoe.
Cafodd corff dynes ei ddarganfod yn y rwbel am 2.50yb heddiw a chafwyd hyd i gorff dyn hanner awr yn ddiweddarach, gan ddod a nifer y meirw i chwech.
Nwy yn gollwng oedd wedi achosi’r ffrwydrad yn y fflatiau ar Park Avenue a 116th Street yn East Harlem.
Cafodd mwy na 60 o bobl eu hanafu – roedd o leiaf tri ohonyn nhw’n blant.
Roedd y ffrwydrad hefyd wedi chwalu ffenestri mewn nifer o adeiladau cyfagos.