Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi cyhoeddi colledion blynyddol o £176 miliwn heddiw.

Daeth y colledion yn y flwyddyn hyd at 2 Chwefror yn dilyn cwymp o 2.8% mewn gwerthiant a chostau o £903 miliwn.

Roedd y costau hynny’n cynnwys prynu cwmni dillad plant Kiddicare yn 2011, ond mae Morrisons bellach yn bwriadu gwerthu’r cwmni yn dilyn perfformiad gwael.

Fe wnaeth y cwmni elw o £879 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.

Mae Morrisons wedi rhybuddio y bydd y farchnad yn parhau’n “gystadleuol” yn y flwyddyn i ddod ond eu bod yn bwriadu buddsoddi £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf i wella gwerth am arian a chryfhau eu safle yn y farchnad.