Huw Lewis
Mae llythyr gan holl brifathrawon ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf wedi cael ei anfon at y Gweinidog Addysg , Huw Lewis sy’n awgrymu  bod eu disgyblion “yn colli ffydd yn y drefn arholiadau.”

Daw’r llythyr yn dilyn pryderon am ganlyniadau TGAU Saesneg Iaith oedd yn is na’r disgwyl yng Nghymru.

Mae’r bwrdd arholi CBAC wedi cyhoeddi y bydd adolygiad mewnol yn cael ei gynnal, ac mae Huw Lewis wedi dweud bod adolygiad i’r mater ar droed.

Mae  19 o benaethiaid ysgolion a Chyfarwyddwr Addysg y Sir wedi arwyddo’r llythyr ac maen nhw’n gofyn am yr hawl i ddisgyblion ailsefyll y papur Saesneg Iaith yn yr haf am ddim.

Heddiw hefyd bydd tystiolaeth sydd wedi cael ei gasglu gan brifathrawon mewn mwy na 100 o ysgolion yn cael ei gyflwyno i Huw Lewis.

Mae undeb y prifathrawon ASCL Cymru yn dweud nad yw ysgolion yng Nghymru yn gallu deall beth sydd wedi achosi’r gostyngiad sylweddol yng nghanlyniadau TGAU Saesneg Iaith ym mis Ionawr  a bod y canlyniadau wedi “effaith sylweddol” ar athrawon a disgyblion.

‘Codi bwganod’

Ond mae Huw Lewis wedi cyhuddo’r prifathrawon o godi bwganod ac mae’n dadlau  nad yw’r canlyniadau yn is na’r disgwyl ar draws holl ysgolion Cymru.

Dywedodd neithiwr: “Rwy’n gwrthod neidio  i gasgliadau. Yr hyn rwyf i yn canolbwyntio arno yw tystiolaeth gadarn, nid sïon.”

Dywedodd Angela Burns,  llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru ar Radio Wales:  “Dwn i ddim be sy’n dychryn rhywun fwya’ – y ffaith fod prifathrawon yn sgrifennu llythyr fel hyn neu ymateb y Gweinidog sy’n awgrymu bod casgliadau’r ymchwiliad eisoes wedi eu gwneud.”

‘Llanast llwyr’

Wrth ofyn cwestiwn brys yn y Senedd yr wythnos hon, dywedodd Mark Isherwood AC ar ran y Ceidwadwyr Cymreig,  bod rhiant o Ynys Môn wedi cysylltu ag o i ddweud bod y canlyniadau yn “lanast llwyr”.

Yn ol Mark Isherwood, fe ddywedodd y rhiant: “Mae fy merch a phawb arall yn ei dosbarth Saesneg Set 1 wedi cael eu heffeithio gan lanast anferthol. Os na fydd hi’n cael graddau da, fe fydd yn amhosib iddi ddilyn yr yrfa mae hi wedi ei ddewis.”

Mae Mark Isherwood wedi galw am ymchwiliad annibynnol i “fethiant” y Llywodraeth.

“Mae trychinebau gan Lywodraeth Llafur Cymru yn bethau cyson erbyn hyn, fel nad ydym ni bron yn synnu pan mae rhywbeth arall yn codi”, meddai.

“Er hyn, mae dyfodol pobol ifanc Cymru yn dibynnu ar ymddiheuriad ac ymchwiliad annibynnol na fydd gweinidogion yn gallu cuddio y tu ôl iddo.”

Mae CBAC wedi cyhoeddi llythyr agored i ysgolion sy’n dweud y bydd y bwrdd arholi yn rhoi mwy o gymorth i ysgolion cyn yr arholiadau TGAU nesaf ym mis Mehefin.