Edwina Hart
Mae’r Gweinidog Gwyddoniaeth, Edwina Hart wedi cyhoeddi buddsoddiad o £21 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil wyddonol yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad fel rhan o raglen Sêr Cymru i ddenu arbenigwyr gwyddonol i Gymru fel rhan o rwydwaith ymchwil.

Ymhlith y gwaith ymchwil fydd yn cael ei gwblhau mae meddyginiaethau newydd, peirianneg arloesol ac ynni gwyrdd.

Mae Cymru’n flaenllaw ym maes ymchwil wyddonol fyd-eang ond mae arbenigwyr yn dweud bod angen rhagor o ymchwilwyr.

Mae’r rhwydwaith yn cynnwys arbenigwyr o holl brifysgolion Cymru ym meysydd Gwyddorau Biolegol, Peirianneg a’r Amgylchedd.

Bydd pob un o’r cyfranwyr i’r rhwydwaith yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau ymchwil yn eu meysydd arbenigedd eu hunain, gyda phob un yn derbyn £7 miliwn i recriwtio myfyrwyr PhD a chymrodyr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: “Mae gwyddoniaeth ac arloesedd yn bileri allweddol mewn economi sy’n ffynnu.

“Mae rhoi hwb i’n gallu i wneud ymchwil wyddonol yn hanfodol i wella ein lles economaidd ac i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru.

“Mae ymchwilwyr yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd ar gyfer y symiau sydd wedi cael eu buddsoddi.

“Nod rhwydweithiau Sêr Cymru yw cynyddu’r buddsoddiad hwnnw yng ngwyddoniaeth Cymru trwy gefnogi a datblygu rhagoriaeth ymchwil.”