Roedd y ddau ddyn oedd yn teithio gyda phasborts wedi eu dwyn ar awyren Malaysia Airlines, sydd wedi mynd ar goll, yn dod o Iran ac yn ceisio cael lloches yn Ewrop.
Yn ôl pob tebyg nid oedd gan y ddau gysylltiad â therfysgaeth.
Mae’r cyhoeddiad yn debygol o leihau’r dyfalu, o leiaf am y tro, bod diflaniad y Boeing 777 yn gysylltiedig â therfysgaeth. Dywedodd yr heddlu bod y ddau ddyn wedi prynu eu tocynnau yng Ngwlad Thai ac wedi teithio i Falaysia gyda’i gilydd.
Mae’r awdurdodau wedi methu a dod o hyd i’r awyren a oedd yn cludo 239 o bobl pan ddiflannodd oddi ar sgriniau radar ddydd Sadwrn.
Erbyn hyn mae’r chwilio am yr awyren wedi ehangu i arfordir gorllewinol Malaysia.
Dywedodd prif swyddog yr heddlu Malaysia, Khalid Abu Bakar, mewn cynhadledd i’r wasg eu bod nhw wedi darganfod mai un o’r dynion oedd Pouria Nourmohammadi Mehrdad, 19, a’i bod hi’n debygol ei fod yn bwriadu symud i’r Almaen ble roedd ei fam yn disgwyl amdano.
Mae Interpol wedi darganfod bod yr ail ddyn, sy’n 29 mlwydd oed, hefyd yn dod o Iran ac mae llun wedi ei ryddhau o’r ddau yn mynd ar yr awyren yr un pryd.