Nigel Evans
Mae’r achos yn erbyn yr Aelod Seneddol Nigel Evans wedi ail-ddechrau yn Llys y Goron Preston bore ma.

Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n enedigol o Abertawe ac yn Aelod Seneddol Ribble Valley yn Sir Gaerhirfryn, yn wynebu naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion sy’n dyddio o  2002 hyd at 1 Ebrill y llynedd.

Mae cyn-ddirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, chwe chyhuddiad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o dreisio.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddoe, clywodd y llys bod Nigel Evans, wedi defnyddio ei ddylanwad “pwerus” i ymosod yn rhywiol ar saith o ddynion ifanc.

Wrth agor yr achos, dywedodd yr erlynydd Mark Heywood QC, fod gan Nigel Evans y gallu i hybu gyrfaoedd y rhai oedd  am weithio yn San Steffan.

Tystion

Cafodd cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price, ei restru ymhlith tystion yr erlyniad yn yr achos yn erbyn Nigel Evans ddoe.

Mae tystion eraill ar ran yr erlyniad yn cynnwys Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, a’r Aelodau Seneddol Sarah Wollaston, Michael Fabricant, Patrick McLoughlin, Alexander John Randall, Conor Burns a Tom Blenkinsopp.

Bydd y cyn Aelod Seneddol, Lembit Opik, hefyd yn rhoi tystiolaeth ar ran y Goron.

Mae disgwyl i’r achos barhau am bedair neu bum wythnos.