Angela Merkel
Fe fydd Angela Merkel yn ymweld â Llundain heddiw ar gyfer trafodaethau gyda David Cameron sy’n gobeithio y bydd yn gallu cael gwell cytundeb i’r DU yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cefnogaeth Canghellor yr Almaen yn allweddol i ymdrechion y Prif Weinidog i ddiwygio’r cytundeb gyda’r UE.

Yn ystod ei hymweliad fe fydd Angela Merkel hefyd yn annerch y Senedd ac yn cwrdd â’r Frenhines.