Mae 99 o bobl ar fwrdd awyren filwrol wedi cael eu lladd mewn damwain i’r dwyrain o Algeria, yn ôl adroddiadau.

Roedd yr awyren yn teithio o ddinas Ouargla i dref Oum El Bouaghi tua 220 milltir i’r dwyrain o Algiers.

Yn ôl llygad dystion roedd yr awyren wedi taro ochr mynydd cyn y ddamwain.