Yr Athro Richard Wyn Jones
Mae’r academydd a’r sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones, yn rhoi tystiolaeth o flaen Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan heddiw ynglŷn â datganoli pwerau trethu i Gymru.

Mae disgwyl i gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ddweud ei fod yn anghytuno bod angen refferendwm i benderfynu os dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau i godi trethi a benthyg arian.

Mae Richard Wyn Jones yn rhoi tystiolaeth wrth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ddechrau ar ei waith craffu, gydag ystod o dystion arbenigol, cyn i Fesur drafft Cymru ddod yn ddeddf. Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Cymru David Jones  hefyd yn rhoi tystiolaeth maes o law.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fesur drafft Cymru ar 18 Rhagfyr 2013. Diben y Mesur yw datganoli pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y Mesur hefyd yn newid rhai o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynulliad.

Yn ôl Richard Wyn Jones, nid oes angen refferendwm o gwbl ar y mater.

Meddai: “Does dim un o’r dadleuon o blaid refferendwm yn dwyn perswâd. Mae’n werth nodi y byddai unrhyw benderfyniad i gynnal refferendwm ar y mater hwn yn afreolaidd iawn mewn termau rhyngwladol cymharol.”

Herio Carwyn Jones

Ym Mae Caerdydd heddiw hefyd, mewn trafodaeth ar Fesur drafft Cymru, mae disgwyl i arweinwyr y gwrthbleidiau herio Prif Weinidog Cymru dros safbwynt y Blaid Lafur ar ddatganoli pwerau trethu.

Mae Carwyn Jones wedi ei gwneud hi’n amlwg nad ydi o eisiau refferendwm ar y mater nes bod y fformiwla sy’n penderfynu faint o arian mae Cymru, a gwledydd datganoledig eraill, yn ei gael gan San Steffan –  sef fformiwla Barnett –yn cael ei newid.

Ond mae Carwyn Jones yn credu bod angen refferendwm cyn deddfu.