Eglwys gadeiriol Christchurch (mathinbgn-CCA-2.0)
Dywed achubwyr a oedd yn chwilio am gyrff o dan adfeilion eglwys gadeiriol Christchurch yn Seland Newydd nad oedd neb wedi marw yno wedi’r daeargryn yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yr awdurdodau wedi ofni y gallai cymaint â 22 o bobl fod o dan gweddillion tŵr clochdy’r eglwys gadeiriol a ddymchwelodd yn y daeargryn.

Cafodd o leiaf 165 o bobl eu lladd yn y daeargryn 6.3 ar raddfa Richter ar 22 Chwefror – un o’r trychinebau mwyaf yn hanes y wlad.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Sandra Manderson fod timau achub wedi cwblhau cloddio’r adfeilion a chadarnhaodd nad oedd neb wedi cael eu dal y tu mewn i’r gyrchfan boblogaidd.

Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio y byddai’r newyddion da yn gostwng yr amcangyfrif o gyfanswm y meirw o 240 i tua 220. Ond cadarnhaodd fod nifer swyddogol y meirw wedi codi i 165 ar ôl i ddau gorff gael eu hadfer o adeilad arall yn y ddinas.