Mae dynion sy’n gwneud gwaith ar un o stadiymau Cwpan y Byd Pêl-droed yn Brasil, yn bygwth mynd ar streic er mwyn mynnu gwell amodau gwaith.

Fe allai’r streic achosi oedi ar yr Arena da Amazonia yn Manaus – ac fe allai olygu na fyddai’n barod ar gyfer Cwpan y Byd ddiwedd Mehefin eleni.

Fe gafodd dyn 55 oed o Bortiwgal ei ladd ddydd Gwener tra’n dad-gysylltu craen oedd yn gweithio ar do’r stadiwm. Dyma’r drydedd farwolaeth ar y safle adeiladu o fewn llai na blwyddyn. Mae arweinydd undeb yn dweud y bydd y dynion yn rhoi eu hoffer i lawr ddydd Llun “er mwyn sicrhau hawliau gweithwyr”.

Mae’r Arena da Amazonia yn un o’r pump maes sydd eto i gael eu cwblhau ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Fe fydd pedair gêm yn cael eu chwarae yno ym Mehefin – yn cynnwys gemau Yr Unol Daleithiau yn erbyn Portiwgal, a Lloegr yn erbyn Yr Eidal.