Mae heddlu yn Rwsia wedi arestio ymgyrchwyr tros hawliau hoywon yn ninas St Petersburg, ar ddiwrnod cynta’ Gemau Olympaidd y Gaeaf yn y wlad.

Yn ystod y brotest, fe gododd pedwar protestiwr faner yn dyfynnu’r Siarter Olympaidd, sy’n gwahardd unrhyw fath o wahaniaethu – o ran lliw, cred neu rywioldeb.

Fe gafodd y protestwyr, a oedd wedi crynhoi ar Ynys Vasilyevsky yn St Petersburg, eu hamgylchynu gan yr heddlu yn gyflym iawn. Mae’r heddlu wedi gwrthod gwneud sylw ar y digwyddiad hyd yma.

Mae cyfraith Rwsiaidd sy’n gwahardd “propaganda” hoyw rhag cyrraedd pobol ifanc a phlant, wedi cael ei beirniadu’n hallt gan gefnogwyr hawliau hoywon ar draws y byd. Mae rhai wedi mynd cyn belled â galw ar i gystadleuwyr ymatal rhag cystadlu yng Ngemau Sochi, er mwyn nodi eu protest.

Mae cyfraith Rwsia hefyd yn gwahardd unrhyw brotestiadau yn erbyn y llywodraeth, ac fe all y sawl sy’n torri’r gyfraith wynebu dirwyon trwm neu gyfnodau yng ngharchar.