Mae’r Gweilch wedi enwi Matthew Morgan fel maswr ar gyfer ei gêm Pro 12 yn erbyn Ulster yn Ravenhill heno.
‘‘Yr ydym yn ymwybodol y bydd hi’n gêm anodd i ni, ond yr ydym yn edrych ymlaen at yr her o chwarae un o’r timau gorau yn y gystadleuaeth ac mae ganddynt garfan gref iawn,’’ meddai hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy.
Mae’r Gweilch wedi ennill ei tair gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth ond mae Ulster wedi ei curo dair gwaith yn ei pedair gêm ddiwethaf.
Mae’r prop Ryan Bevington wedi ei rhyddhau o garfan Cymru a bydd yn dechrau ar y fainc ynghŷd a’r asgellwr Eli Walker sy’n dychwelyd ar ôl anaf.
Oherwydd galwadau rhyngwladol ac anafiadau nid oedd 19 aelod o’r garfan y Gweilch ar gael ar gyfer y gêm heno. Bydd y clo Perry Parker yn dechrau am y tro cyntaf i’r Gweilch yn y gystadleuaeth Pro 12.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Sam Davies, Jeff Hassler, Jonathan Spratt (Capten), Ashley Beck, Aisea Natoga, Matthew Morgan a Tom Habberfield.
Blaenwyr – Duncan Jones, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers, Perry Parker, Tyler Ardron, Sam Lewis a Joe Bearman.
Eilyddion – Matthew Dwyer, Ryan Bevington, Dan Suter, Dan Baker, Morgan Allen, Tito Tebaldi, Richard Fussell ac Eli Walker.