Mae’r prop pen rhydd, Sam Hobbs yn dychwelyd fel capten i dîm Gleision Caerdydd pan fyddan nhw’n teithio i chwarae Munster yn y gystadleuaeth Pro12 nos Sadwrn.

Y bachwr addawol Kristian Dacey a Benoit Bourrust fydd dau aelodarall y rheng flaen. Mae’r Cyfarwyddwr Rygbi Phil Davies wedi dewis tîm cry far gyfer y gêm a hynny ar waetha’r ffaith bod nifer o chwaraewyr y rhanbarth ar ddyletswydd rhyngwladol neu yn dioddef o anafiadau.

Y ddau glo fydd Chris Dicomidis a Filo Paulo. Bydd Robin Copeland yn gadael carfan Iwerddon ac yn dechrau fel wythwr yn erbyn tîm y bydd yn ymuno â nhw yn ystod yr haf.

Bydd Dan Fish yn symud nôl fel cefnwr a Harry Robinson a Chris Czekaj fydd yr asgellwyr. Lloyd Williams fydd yn dechrau fel mewnwr gyda Gareth Davies yn gwisgo crys rhif 10.

‘‘Mae hon yn gêm enfawr i ni ar ôl curo yr Harlequins nos Wener ddiwethaf. Mae’r bechgyn yn edrych ymlaen at yr her ac mae angen canlyniadau da arnom. Mae Munster yn dîm cryf ac er bod rhai o’i chwaraewyr ar ddyletswydd rhyngwladol mae dyfnder yn eu carfan a nhw sydd ar frig y tabl,’’ meddai’r clo Chris Dicomidis.

Tîm y Gleision

Olwyr – Dan Fish, Harry Robinson, Owen Williams, Gavin Evans, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Kristian Dacey, Benoit Bourrust, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Macauley Cook, Ellis Jenkins a Robin Copeland.

Eilyddion – Marc Breeze, Thomas Davies, Patrick Palmer, James Down, Luke Hamilton, Lewis Jones, Simon Humberstone ac Isaia Tuifua.